Gŵydd Dalcen-wen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gŵydd Dalcen-wen | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Anser albifrons Scopoli, 1769 |
Mae'r Ŵydd Dalcen-wen (Anser albifrons) yn ŵydd sy'n nythu trwy rannau helaeth o ogledd Ewrop, Asia ac America. Mae nifer o is-rywogaethau:
- A. a. albifrons Gogledd Ewrop ac Asia
- A. a. frontalis Dwyrain Siberia a Canada
- A. a. gambeli Gogledd-orllewin Canada
- A. a. elgasi De-orllewin Alaska
- A. a. flavirostris Gorllewin Greenland
Un o'r "gwyddau llwyd" yw'r Ŵydd Dalcen-wen, ac mae'n debyg iawn i'r Ŵydd Dalcen-wen Leiaf, sy'n perthyn yn agos iddi. Mae gan y ddau fath wyn o gwmpad bôn y pig ac ar y talcen a rhesi du ar y bol, ond mae'r Ŵydd Dalcen-wen Leiaf yn llai, ac mae siâp y darn gwyn yn wahanol. Mae'r Ŵydd Dalcen-wen yn ŵydd weddol fawr, 65-78 cm o hyd a 130-165 cm ar draws yr adenydd, gyda choesau oren.
Mae niferoedd bychan o'r Ŵydd Dalcen-wen yn gaeafu yng Nghymru. Gellir gweld dau is-rywogaeth yma, A. a. albifrons ac A. a. flavirostris