Gordian I
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Marcus Antonius Gordianus Sempronianus Romanus Africanus (159 - 12 Ebrill 238) oedd ymerawdwr Rhufain am ran o'r flwyddyn 238.
Ychydig a wyddir am ei fywyd personol, ond credir bod ei deulu'n hannu o Frigia (Anatolia). Yr oedd o deulu ecwestraidd cyfoethog, a llwyddodd i godi ei safle ddigon i ddod yn aelod o'r Senedd. Yr oedd ganddo ddau blentyn, Marcus Antonius Gordianus (Gordian II) a Maecia Faustina a ddaeth yn fam Gordian III.
Astudiodd rethreg a llenyddiaeth yn ei ieuenctid cyn ymuno a'r fyddin a dod yn bennaeth Lleng IV Escita yn Syria. Yn 216 penodwyd ef yn rhaglaw Britannia, yna'n gonswl yn ystod teyrnasiad Heliogabalus. Ysgrifennodd gerdd epig dan y teitl Antoninias i anrhydeddu'r ymerawdwr Caracalla.
Yn ystod teyrnasiad Alexander Severus, penodwyd Gordian (oedd eisoes yn 80 oed) yn broconswl Affrica. Tra'r oedd yn y swydd hon, lladdwyd Alexander Severis gan Maximinus Thrax, a gyhoeddwyd yn ymerawdwr. Nid oedd Maximinus yn ymerawdwr poblogaidd, a bu gwrthryfel yn Affrica yn 238. Cyhoeddwyd Gordian yn ymerawdwr gyda'r teitl Africanus ar 22 Mawrth y flwyddyn honno, gan gymeryd ei fab yn gyd-ymerawdwr fel Gordian II. Cararnhaoedd y Senedd yn Rhufain ef fel ymerawdwr.
Fodd bynnag, yr oedd Capelianus, rhaglaw Numidia, yn parhau'n ffyddlon i Maximinus, ac ymosododd ar Affrica. Gorchfygwyd Gordian, a lladdwyd ei fab Gordian II yn y frwydr. Lladdodd Gordian ei hun yn fuan wedyn, wedi teyrnasiad o ddim ond 36 díwrnod.
O'i flaen : Maximinus Thrax |
Ymerodron Rhufain Gordian I gyda Gordian II |
Olynydd : Pupienus a Balbinus |