Habibullah Khan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Habibullah Khan (1872 – 20 Chwefror, 1919) oedd brenin Afghanistan o 1901 hyd ei farwolaeth yn 1919. Cafodd ei eni yn Tashkent, Uzbekistan, yn fab hynaf yr Emir Abdur Rahman Khan. Dilynodd ei dad i'r orsedd yn Hydref 1901.
Roedd Habibullah yn frenin cymharol seciwlar, rhyddfrydol, a geisiai ddiwygio bywyd ei wlad, e.e. trwy gyflwyno meddygaeth Orllewinol. Sefydlodd ysgolion, moderneiddiodd y fyddin a cheisiodd ddiwygio'r gyfraith.
Cadwodd Affganistan yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan anwybyddu galwadau gan swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid (Twrci), a ystyrid gan rai yn arweinydd crefyddol Islam, i gael y wlad i ymuno yn y rhyfel. Gwellodd perthynas ei wlad â'r India Brydeinig drwy arwyddo cytundeb heddwch yn 1905 ac ymweld â'r wlad yn 1907.
Cafodd ei asasineiddo tra ar daith hela ym mryniau Kalagosh ar Chwefror 20, 1919. Fe'i olynwyd gan ei fab Amanullah Khan
O'i flaen : Abdur Rahman Khan |
Emiriaid Affganistan Habibullah Khan |
Olynydd : Amanullah Khan |