Afghanistan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: dim | |||||
Anthem: Soroud-e-Melli | |||||
Prifddinas | Kabul | ||||
Dinas fwyaf | Kabul | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Pashto, Persieg (Dari) | ||||
Llywodraeth
Arlywydd
Is-arlywydd Is-arlywydd |
Gweriniaeth Islamaidd Hamid Karzai Ahmad Zia Massoud Karim Khalili |
||||
Annibyniaeth Datganwyd Adnabwyd |
O'r Deyrnas Unedig 8 Awst, 1919 19 Awst, 1919 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
652,090 km² (41ain) |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - cyfrifiad 1979 - Dwysedd |
29,863,000 (38ain) 13,051,358 46/km² (150fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2006 $31.9 biliwn (91ain) $1,310 (162ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | (n/a) – dim | ||||
Arian breiniol | Afghani (Af) (AFN ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+4:30) (UTC+4:30) |
||||
Côd ISO y wlad | .af | ||||
Côd ffôn | +93 |
Gwlad yng Nghanolbarth Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Afghanistan neu Afghanistan (hefyd Affganistan). Mae'r wlad yn ffinio ag Iran, Pakistan, Turkmenistan, Uzbekistan, Tajikistan a gorllewin eithaf China. Ei phrifddinas yw Kabul.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Afghanistan yn wlad o wastadeddau uchel a mynyddoedd. Mae cadwyn fawr yr Hindu Kush yn cyrraedd dros 7,000 m o uchder yn Tirich Mir, ar y ffin â Phacistan yn y gogledd-ddwyrain. Ceir amrywiadau mawr mewn hinsawdd mewn lle cymharol gyfyngedig, yn amrywio o hinsoddau sych ac isdrofannol i hinsawdd alpaidd eithafol yn y mynyddoedd. Mae'r dinasoedd a threfi pwysig yn cynnwys y brifddinas Kabul a thref hanesyddol Ghazni yn y canolbarth, Herat a Kandahar yn y gorllewin, Faizabad, Konduz, Mazar-i-Sharif a Maimana yn y gogledd, a Jalalabad yn y dwyrain. Mae dŵr yn gymharol brin yn y wlad. Yr unig afonydd o bwys yw Afon Oxus, sy'n rhedeg ar hyd y ffin ogleddol; Afon Helmand (Rud-e Helmand) yn y de-orllewin, sy'n rhedeg dros y ffin i Iran i gael ei llyncu yng nghorstir hallt Daryacheh-ye Sistan; ac Afon Kabul (Darya-ye Kabul) sy'n rhedeg o ardal Bwlch Khyber i gyfeiriad Kabul.
[golygu] Hanes
-
- Prif erthygl: Hanes Afghanistan
Symudodd llwythi Iranaidd i'r ardal yn ystod yr ail fileniwm Cyn Crist. Mae rheolaeth ar y wlad wedi newid sawl gwaith. Am ganrifoedd roedd yn ganolbwynt Bactria, teyrnas hynafol a oedd yn ymestyn rhwng Persia a Chanolbarth Asia ac India. Am gyfnod hir bu'n rhan o ymerodraeth Persia. Goresgynnodd Alecsander Mawr rannau o'r wlad ar ei daith i'r dwyrain. Am gyfnod o rai canrifoedd roedd y wlad yn ganolfan Fwdhaidd bwysig. Mae adfeilion Bamiyan yn dyst i hynny, ac yn cysylltu'r wlad â diwylliant Bwdhaidd Canolbarth Asia (gwerddon Turfan er enghraifft) a Tibet ar un llaw ac â dinasoedd Bwdhaidd Gandhara (gogledd-orllewin Pacistan heddiw) ar y llaw arall. Fe orchfygodd yr Arabiaid Bersia yn y 7fed ganrif a meddiasant Afghanistan yn ogystal. Fe'i gorchfygwyd gan y Mongoliaid yn y 13eg ganrif, ac am gyfnod, dan reolwyr Ghazni, roedd Afghanistan ei hun yn rheoli rhan sylweddol o ogledd-orllewin is-gyfandir India.
Sefydlwyd Emiraeth Afghanistan yn 1747 ac yn ddiweddarach daeth dan ddylanwad Prydain Fawr. Am ganrif a rhagor roedd Afghanistan yn ddarn gwerin gwyddbwyll yn y Gêm Fawr am reolaeth yng Nghanolbarth Asia rhwng Prydain a Rwsia. Ar ôl cyfnod dan reolaeth bell Brydeinig enillodd y wlad radd o annibyniaeth yn 1919 dan yr emir Amanullah Khan ac yn gyflawnach yn 1922 pan sefydlwyd Teyrnas Afghanistan yn unol â Chytundeb Rawalpindi.
Yn 1973 datganiwyd gweriniaeth. Cafodd y rhyfel cartref hir rhwng 1979 a 1992 a phresenoldeb byddin Rwsia (hyd at 1989) effaith bellgyrhaeddol ar wleidyddiaeth y wlad. Yn y 1990au tyfodd dylanwad a grym y Taleban ffwndamentalaidd ac o 1994 hyd at 2001 rheolwyd rhan sylweddol o'r wlad ganddynt. Yn 2001 ymosododd lluoedd arfog yr UDA, gyda chymorth Cynghrair y Gogledd, ar y Taleban ac fe'u disodlwyd. Ers hynny mae llywodraeth ddemocrataidd wedi rheoli y rhan fwyaf o'r wlad, gyda chefnogaeth lluoedd NATO, ond erys y Taleban a'u cefnogwyr yn gryf yn y de a'r dwyrain.
[golygu] Crefydd
Mae Afghanistan yn wlad Islamaidd ers yr 8fed ganrif ond yn y gorffenol bu'n ganolfan bwysig iawn yn hanes Zoroastriaeth a Bwdhaeth. Hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif roedd Nuristan, i'r gogledd o ddyffryn Jalalabad, yn wlad baganaidd led-annibynnol a elwid yn Kaffiristan (mae'r olaf o'r Kaffiriaid paganaidd yn byw dros y ffin yn nhalaith Chitral ym Mhacistan).
Ceir nifer o fosgiau hanesyddol yn Afghanistan, yn cynnwys y Mosg Las ym Mazar-e-Sharif yn y gogledd, mosgiau hynafol dinas Herat yn y gorllewin ac adfeilion mosg a minaret enwog yn Ghazni. Y safle Bwdhaidd pwysicaf yw Bamiyan, yng nghanolbarth y wlad; yn anffodus dinistriwyd rhan sylweddol o'r cerfluniau hynafol o'r Bwdha gan y Taleban ar ddiwedd y 1990au.
[golygu] Economi
Mae Afghanistan yn un o wledydd tlotaf y byd. Mae'r mwyafrif o'r bobl yn gweithio ar y tir. Yn y dyffrynoedd a chymoedd mae rhwydweithiau dyfrhad yn galluogi amaethyddiaeth a thyfu coed ffrwythau i ffynu. Yn y mynyddoedd a'r gwastadeddau uchel bugeilio a chodi gwartheg a geifr yw asgwrn cefn yr economi leol. Mae tyfu cnydau opiwm yn bwysig yn yr ardaloedd gwledig ers canrifoedd ac mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Afghanistan. Mae nwyddau naturiol y wlad yn cynnwys glo, petroliwm a nwy naturiol a mwyngloddir lapis lazuli yn y gogledd, yn arbennig yn y Hindu Kush. Mae'r rhyfela parhaol dros y degawdau diwethaf wedi dinistrio dros 65% o ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol eraill y wlad ac mae'r economi heddiw mewn cyflwr bregus iawn ac yn ddibynnol ar gymorth ariannol tramor.