Heidelberg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas yn Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Heidelberg, gyda phoblogaeth o oddeutu 140,000 o bobl. Mae prifysgol hynaf yr Almaen wedi ei leoli yno, y Ruprecht-Karls Universität, a sefydlwyd yn 1386.. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am ei chastell (Schloss) ac am ei lleoliad ar lannau'r Afon Neckar. Mae'r ddinas a'i hadeiladau yn hardd iawn ac yn boblogaidd efo twristiaid o'r byd i gyd. Ar nifer o achlysuron ar hyd y flwyddyn mae'r castell yn cael ei oleuo ac yn aml ceir hefyd tan gwyllt.