Huw Llwyd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd yn y Gymraeg a milwr oedd Huw Llwyd (1568? - 1630?), a aned yng Nghynfal-fawr (filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), gogledd Cymru. Roedd Huw yn perthyn i'r un teulu â'r llenor a chyfrinydd Morgan Llwyd.
Fel milwr bonheddig gwasanaethai dan Syr Roger Williams yn Ffrainc a'r Iseldiroedd ym myddin yr Iseldirwyr a oedd yn ymladd i ennill rhyddid i'w gwlad oddi ar Sbaen.
Fel bardd canai ar ei fwyd ei hun yn hytrach na fel bardd proffesiynol. Ymhlith ei hoff bynciau oedd dewiniaeth a helwriaeth. Tyfodd i fod yn cymeriad llên gwerin a gysylltid â dewiniaeth. Gelwir craig fawr ger Afon Cynfal yn Bwlpud Huw Llwyd; dywedir ei fod yn mynd yno i synfyfyrio ac i gonsurio.