Morgan Llwyd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a llenor oedd Morgan Llwyd (1619 – 3 Mehefin 1659), a gafodd ei eni yng Nghynfal-fawr (hen blasdy gwledig, filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), i'r un teulu â Huw Llwyd. Fe'i gelwir weithiau Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg ac ysgrifenodd ambell destun Saesneg yn ogystal. Roedd yn Biwritan argyhoeddedig a digyfaddawd. Enwir Ysgol Morgan Llwyd, ysgol gyfrwng Gymraeg Wrecsam a'r cylch, ar ei ôl. Enillodd Crwys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1919 am ei awdl 'Morgan Llwyd o Wynedd'.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gwaith llenyddol
[golygu] Cymraeg
- Llythur ir Cymru cariadus (1653)
- Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod (1653)
- Diogelwch i rai iw ddeall Ac i eraill iw wattwar... Neu arwydd i annerch y Cymru (Llyfr y Tri Aderyn) (1653)
- Gair o'r Gair (1656)
- Yr Ymroddiad (1657). Cyfieithiad o gyfieithiad Saesneg o un o weithiau y cyfrinydd Jakob Böhme.
- Y Disgybl ai Athraw o newydd (Böhme eto; 1657)
- Cyfarwyddid ir Cymru (1657)
- Gwyddor vchod (1657)
[golygu] Saesneg
- An Honest Discourse between Three Neighbours (1655)
- Lazarus and his Sisters Discoursing of Paradise (1655)
- Where is Christ? (1655)
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Testunau
- J.H. Davies a T.E. Ellis (gol.), Gweithiau Morgan Llwyd (Bangor, 1899, 1908)
- P.J. Donovan (gol.), Ysgrifeniadau Byrion Morgan Llwyd (Caerdydd, 1985)
- M. Wynn Thomas (gol.), Llyfr y Tri Aderyn (Caerdydd, 1988)
[golygu] Astudiaethau
- Hugh Bevan, Morgan Llwyd y Llenor (Caerdydd, 1954)
- M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (Caerdydd, 1984). Cyfres Writers of Wales.
- M. Wynn Thomas, Morgan Llywd: ei gyfeillion a'i gyfnod (Caerdydd, 1991)
[golygu] Gweler hefyd
- Piwritaniaeth yng Nghymru