Huw Wheldon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Syr Huw Wheldon (7 Mai, 1916 - 14 Mawrth, 1986) yn ddarlledwr a chynhyrchydd ar rwydwaith cenedlaethol y BBC yn ystod y 1950au a'r 1960au. Ganwyd ef ym Mhrestatyn ac fe'i magwyd ym Mangor, lle y mynychodd Ysgol Friars.
Yn ffigwr blaenllaw ym myd darlledu'r celfyddydau yn ystod y cyfnod, dechreuodd ei yrfa ddarlledu fel cyflwynydd ar y rhaglen i blant, All Your Own. O 1958 i 1964 roedd yn olygydd ar y rhaglen gelfyddydau, Monitor, lle yr ymddangosodd fel y prif gyfwelydd, yn arwain tîm a oedd y cynnwys David Jones, Ken Russell a Melvyn Bragg.
Ym 1962 daeth yn bennaeth rhaglenni dogfen y BBC, rôl a ehangodd i fod yn bennaeth cerddoriaeth a rhaglenni dogfen y flwyddyn ganlynol. Ym 1965 apwyntiwyd ef yn reolwr rhaglenni a cafodd ei ddyrchafu i swydd rheolwr gyfarwyddwr Teledu'r BBC ym 1968. Parhaodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad ym 1975. Oherwydd ei oed, ni gafodd olynu Charles Curran fel cyfarwyddwr cyffredinol y BBC.
Cafodd ei urddo'n farchog ym 1976 am ei wasanaethau i'r byd darlledu.
Roedd Wheldon yn briod â'r nofelydd Jacqueline Wheldon ac roedd ganddynt dri o blant.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.