BBC
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Corfforaeth ddarlledu cyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r BBC (dyweder "bi bi ec", neu "bi bi si"). Mae'n darparu gwasanaethau teledu a radio trwy'r D.U., ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau [1], a'r gwasanaeth radio BBC World Service.
Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yn Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin, Casnewydd a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw yn cynnwys Abertawe.
Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni teledu Cymraeg S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar Radio Cymru ac arlein ar Cymru'r Byd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Categorïau tudalen: Egin | BBC | Teledu | Radio