Iolo Morganwg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Edward Williams (1747-1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg, yn fardd a hynafiaethydd a aned yn Llancarfan, ym Morgannwg, de Cymru. Fe sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe hefyd a sefydlodd Orsedd Beirdd Ynys Prydain.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd
Ganwyd Edward Williams, yn 1747, ym mhentre Llancarfan. Gweithiodd trwy ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn Lloegr, ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical. Yn Llundain roedd yn aelod ymroddgar o'r Gwyneddigion, cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys William Owen Pughe, Owain Myvyr . Daeth i adnabod Robert Southey a dechreuodd alw ei hun "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff fawr o opiwm (laudanum).
Tra yng ngharchar Caerdydd am fethdalieth cafodd fab a fedyddiodd yn Daliesin. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth yn 1826.
[golygu] Ei waith llenyddol
Iolo oedd un o olygyddion tair cyfrol y Myvyrian Archaiology (1801-1807).
Cyfansoddodd Iolo nifer o gerddi. Yn eu plith mae'r cywyddau a dadogodd ar feirdd o'r Oesoedd Canol, rhai ohonynt yn feirdd hanesyddol, fel Dafydd ap Gwilym, ac eraill yn greaduriaid o ben a phastwn Iolo ei hun. Cyhoeddwyd gyfieithiad Saesneg o'r cywyddau dan y teitl Poems Lyric and Pastoral yn 1794. Er i ddilysrwydd y cerddi hyn gael ei amau ac yna ei gwrthbrofi gan ysgolheigion yr 20fed ganrif, maent yn cael eu cydnabod fel cerddi gwych ynddynt eu hunain erbyn heddiw. Cyfansoddodd nifer fawr o emynau ar gyfer yr Undodiaid Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1812. Ysgrifenodd nifer o gerddi rhydd swynol yn ogystal.
Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain yn 1829 ac yn 1848 gwelodd ei gasgliad mawr o farddoniaeth a rhyddiaith hanesyddol, ffug a dilys, olau dydd yn y gyfrol yr Iolo Manuscripts. Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif cyhoeddwyd rhai o'i ffugweithiau eraill, yn cynnwys Coelbren y Beirdd (1840), Dosparth Edeyrn Dafod Aur (1856) a Barddas (dwy gyfrol: 1862, 1874).
Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers 1916.
[golygu] Ei ddylanwad
Yn ystod y can mlynedd ar ôl ei farwolaeth yn 1826, daeth enw Iolo Morgannwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoes ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, dyfeisiadau Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio a wnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu plwyf ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.
[golygu] Llyfryddiaeth
- P.J. Donovan, Cerddi Rhydd Iolo Morganwg (Caerdydd, 1980)
- Prys Morgan, Iolo Morganwg (cyfres Writers of Wales, 1975)
- Brinley Richards, Golwg Newydd ar Iolo Morgannwg (1979)
- T.D. Thomas, Cofiant (1857)
- Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850)
- G.J. Williams, Iolo Morgannwg (Caerdydd, 1956)