Kabul
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Kabul yw prifddinas Afghanistan. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad, 1830m (6000 troedfed) uwchben lefel y môr ar lannau Afon Kabul.
Mae Kabul yn ddinas hynafol iawn. Mae ei hanes yn dechrau 3000 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi cael ei dinistrio a'i hailgodi nifer o weithiau. Mae lleoliad y ddinas ar y groesffordd rhwng de a gogledd y wlad a'i safle strategaidd yn gwarchod y mynedfa i Fwlch Khyber a'r ffordd hynafol i is-gyfandir India yn golygu fod pob goresgynydd yn ceisio ei meddianu a'i hamddiffyn. Dyna fu ei thynged pan safai yn llwybr Alecsander Mawr o Facedon a Genghis Khan, er enghraifft.
Am gyfnod Kabul oedd prifddinas Ymerodraeth y Mogwliaid (1504 - 1738) cyn iddi gael ei symud i Ddelhi. Daeth yn brifddinas Afghanistan yn 1773.
Bu'n dyst i ymyrraeth yr Undeb Sofietaidd yn y wlad ar ddiwedd y 1970au ac yn bencadlys i lywodraeth ffwndamentalaidd y Taleban. Dioddefodd rhannau o'r ddinas gryn ddifrod pan ymsododd lluoedd yr Unol Daleithiau arni i ddymchwel llywodraeth y Taleban.