Môr Adria
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Braich neu gilfach o'r Môr Canoldir yw Môr Adria (hefyd 'Y Môr Adriatig'). Mae'n ymestyn rhwng arfordir dwyreiniol Yr Eidal a de-ddwyrain Ewrop (Slofenia, Croatia, Montenegro, Albania) yng nghanolbarth gogledd y Môr Canoldir. Ceir cyferbyniaeth drawiadol rhwng y ddau arfordir: isel a thywodlyd yw arfordir yr Eidal tra fod yr arfordir dwyreiniol yn greigiog gyda nifer o ynysoedd mawr a bach. Yn ei ben eithaf mae'r môr yn gorffen yn Gwlff Fenis. Ei hyd yw tua 750 km (466 milltir).
Mae'r prif ddinasoedd ar ei lannau yn cynnwys Brindisi, Bari, Fenis, Trieste, Dubrovnik a Rijeka.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.