Manon Rhys
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llenor yw Manon Rhys (ganwyd 1948) sydd yn olygydd, sgriptwraig deledu, ac awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch i'r athro, bardd, a dramodydd J. Kitchener Davies.
Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci rhwng 1952 a 1959 cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu i Brestatyn ym 1961 a mynychodd Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl, hyd 1966, wedi i'w mam, Mair Davies, dderbyn swydd Pennaeth Adran y Gymraeg yn yr un ysgol. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth cyn dilyn cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan gynnwys Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur (a addasodd yn ddiweddarach fel tair nofel). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Hi yw cydolygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin ac mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.
Mae'n briod â T. James Jones a chanddi ddau o blant, Owain a Llio.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Cwtsho 1988
- Ar Fy Myw (gol.) 1990
- O Na Byddai'n Haf o Hyd (addasiad o Goodbye Summer gan Alison Prince) 1990
- Cysgodion 1993
- Tridiau ac Angladd Cocrotshen 1996
- Y Palmant Aur 1: Siglo'r Crud 1998
- Y Palmant Aur 2: Rhannu'r Gwely 1999
- Y Palmant Aur 3: Cwilt Rhacs 1999
- Storïau'r Troad (gol.) 2000
- James Kitchener Davies: Detholiad o’i Waith (gol. ar y cyd ag M. Wynn Thomas) 2002
- Rara Avis 2005
- Cerddi'r Cymoedd (gol.) 2005
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.