Mikhail Lermontov
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a nofelydd yn yr iaith Rwsieg oedd Mikhail Yuryevich Lermontov (Михаил Юрьевич Лермонтов) (3 / 15 Hydref 1814 – 15 / 27 Gorffennaf 1841). Un o gynrychiolwyr pwysicaf y Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth Rwsia ydyw, gyda Aleksandr Pushkin a Fyodor Tyutchev. Ymysg ei weithiau enwocaf mae'r nofel Arwr ein hoes a'r cerddi hir Mtsyri ac Y demon. Bu farw yn 26 oed o anaf saethu a ddiodefodd mewn gornest yn Pyatigorsk, yng ngogledd y Cawcasws.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.