Modd amodol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffurff ferfol mewn llawer o ieithoedd yw'r modd amodol. Fe'i defnyddir i gyfeirio at weithred neu gyflwr sy'n ansicr, neu sy'n dibynnu ar i ryw weithred arall ddigwydd. Un o'r tair ffurf gryno sydd gan y rhan fwyaf o ferfau Cymraeg yw'r amodol. Rhoddir enghreifftiau o ffurfiau amodol isod. Defnyddir y ffurfiau hyn fel ffurfiau amodol yn yr iaith llafar. Yn yr iaith ysgrifenedig, defnyddir yr un ffurfiau neu ffurfiau tebyg i gyfleu'r amherffaith hefyd.
canu | hoffi | gallu | |
1af unigol | canwn i | hoffwn i | gallwn i |
2il unigol | canet ti | hoffet ti | gallet ti |
3ydd unigol | canai (f)e / (f)o | hoffai (f)e / (f)o | gallai (f)e / (f)o |
1af lluosog | canen ni | hoffen ni | gallen ni |
2il lluosog | canech chi | hoffech chi | gallech chi |
3ydd lluosog | canen nhw | hoffen nhw | gallen nhw |
Nid oes gan y ferf dylai ond ffurfiau amodol (mi ddylwn i ond nid *mi ddylaf i neu mi ddylais i).
Ymysg yr ieithoedd eraill sydd â ffurfiau cryno i gyfleu ystyr amodol y mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd Romáwns, gan gynnwys Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg. Yn yr ieithoedd Germanaidd, does dim ffurfiau amodol ar y ferf. Yn eu lle, defnyddir ymadrodd cwmpasog yn defnyddio berf gynorthwyol megis Saesneg would neu Almaeneg würde. Mae gan Rwsieg geiryn amodol by sy'n cyfleu'r un ystyr.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.