Osbert Fynes-Clinton
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o dafodieithegwyr cynnar y Gymraeg oedd Osbert Henry Fynes-Clinton (1869 - 1941). Hanodd Fynes-Clinton o Fanceinion, yn fab i reithor Barlow Moor ger Didsbury. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, lle astudiodd ieithoedd modern. Bu'n athro Ffrangeg yn King Edward's School, Aston, Birmingham tan 1904, pryd penodwyd yn athro Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Arhosodd yn ardal Bangor hyd ei farwolaeth yn 1941, ac roedd ei ddiddordeb yn nhafodiaith yr ardal yn dyddio o'r adeg honno.
Ei brif waith yw geiriadur tafodiaith Bangor a'r cylch The Welsh vocabulary of the Bangor district a gyhoeddwyd yn 1913. Roedd wedi'i seilio ar waith maes ar y dafodiaith honno, sy'n perthyn i'r Wyndodeg, a gyflawnwyd rhwng 1904 a 1912. Defnyddiodd Fynes-Clinton siaradwyr y tafodiaeth leol a anwyd rhwng 1835 a 1859 o Bangor, Pentir, Aber a Llanfairfechan. Mae'r gwaith yn eithriadol ymysg tafodieitheg y cyfnod am ei drylwyredd a'i gywirdeb gwyddonol.
[golygu] Llyfryddiaeth
Clasur Fynes-Clinton:
- The Welsh vocabulary of the Bangor district (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1913)