Parc Cenedlaethol Dyffryn Marwolaeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Parc Cenedlaethol Dyffryn Marwolaeth yn ardal warchodedig i'r dwyrain o gadwyn y Sierra Nevada yn Inyo County, yn ne-ddwyrain Califfornia, UDA, gyda rhan fechan ohono'n ymestyn i mewn i Nevada.
Mae'n cynnwys bron y cyfan o Ddyffryn Marwolaeth yn ei ffiniau. Dyma'r ardal boethaf a sychaf yng Ngogledd America; anialwch di-drugaredd lle mae'r tymheredd yn codi dros 39 gradd C yn y cysgod yn rheolaidd yn ystod yr haf.
Er gwaethaf yr hinsawdd eithafol mae'r parc yn gartref i nifer o rywogaethau diddorol, yn blanhigion ac yn anifeiliaid a chreaduriaid eraill. Mae'r ardal yn arbennig o ddeniadol yn y gaeaf ac yn denu nifer o dwristiaid yr adeg honno.
Cafodd ei gyhoeddi'n Gofeb Genedlaethol yn 1933.