Anialwch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ardal heb llawer o law yw anialwch (diffeithwch). Ceir anialwch iâ a thwndra mewn ardaloedd oer, ac anialwch sych mewn ardaloedd poeth. Ceir anialwch sych mewn nifer o ardaloedd: mewn ardaloedd isdrofannol (e.e. Sahara, Gobi a Kalahari), mewn ardaloedd arfordirol (e.e. Atacama a Namib), mewn basnau mawr yn y mynyddoedd (e.e. y Great Basin), neu y tu hwnt i fynyddoedd. Mewn llawer ohonynt does dim ond tywod, cerrig neu halen.
[golygu] Byw yn yr anialwch
Ychydig iawn o drigfannau a geir yn yr anialwch. Yn draddodiadol mae nifer o'i drigolion yn byw bywyd nomadaidd neu led-nomadaidd. Ond lle ceir dŵr ceir gwerddonau ffrwythlon ac mae'r enghreifftiau mwyaf ohonynt yn cynnal trefi a phentrefi pur sylweddol, yn arbennig yn y Sahara ac Anialwch Arabia.
[golygu] Anialeiddio
Erbyn hyn mae analeiddio (desertification) yn broblem byd-eang. Oherwydd erydiad ac amaethyddiaeth gor-ddyfal, mae anialwch yn ehangu pob blwyddyn, yn bennaf yng ngogledd Affrica (y Sahel), ond hefyd yn ardaloedd eraill yn Affrica, canolbarth a de Asia, Awstralia, gogledd a de America a de Ewrop.
[golygu] Deg anialwch ehangaf y byd
- 8,700,000 km² - Sahara (Affrica)
- 1,560,000 km² - Anialwch Awstralia
- 1,300,000 km² - Anialwch Arabia (Asia)
- 1,040,000 km² - Gobi (Asia)
- 715,000 km² - Kalahari (Affrica)
- 676,000 km² - Patagonia (De America)
- 330,000 km² - Takla Makan (Asia)
- 312,000 km² - Sonora (Gogledd America)
- 273,000 km² - Karakum (Asia)
- 273,000 km² - Tharr a Cholistan (Asia)