Pengő
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y pengő (neu pengo) oedd hen arian cyfredol Hwngari, o 21 Ionawr 1927 hyd 31 Gorffennaf 1946, pan gafodd ei ddisodli gan y Forint ar ôl amser o chwyddiant ofnadwy. Roedd 100 fillér mewn pengő.
[golygu] Rhaglith
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y Goron Awstria-Hwngari wedi cael cyfradd uchel o chwyddiant. Yn Hwngari cyflwynwyd arian newydd, y pengő, oedd yn werth 12,500 coron, gyda 3800 pengő i un cilogram o aur. Y papur banc cyntaf oedd argraffiad ar ben hen bapurau coron, yn cynnwys yr 8 fillér wedi argraffu ar hen nodyn 1000 coron hon.
[golygu] Diwedd y pengő
Collodd y pengő ei werth yn gyfangwbl ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, pan ddioddefwyd y chwyddiant gwaethaf yn y byd erioed yn Hwngari. Cafodd y pengő ei adbrisio, ond yn anffodus roedd hwn yn aflwyddiannus i stopio'r gorchwyddiant, a roedd prisiau'n ddal i ddringo allan o reolaeth. Roedd nodiadau banc gyda gwerthau mwy a mwy yn gael eu hargraffu, y mwyaf am 100,000,000,000,000,000,000 pengő (Százmillió B.-pengő = cant miliwn biliwn pengő) (biliwn Hwngareg = miliwn miliwn) (1020) (gwelwch delwedd hon). Y nodyn gwerthmwyaf, ond ddim wedi cyhoeddi, oedd am 1021 pengő - 1,000,000,000,000,000,000,000 (Egymilliárd B.-pengő = un miliard (=biliwn, mil miliwn) biliwn pengő) (gwelwch delwedd hon).