Prifysgol Rhydychen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifysgol Rhydychen yw'r brifysgol hynaf yn y byd Saesneg. Sefydlwyd y brifysgol rywbryd tua diwedd yr 11eg ganrif, ond nid yw'r union ddyddiad yn glir. Mae Prifysgol Rhydychen yn dilyn y gyfundrefn golegol, lle bydd myfyrwyr yn perthyn i golegau annibynol, ond yn cael ei haddysgu'n ganolog mewn darlithoedd a drefnir gan y Brifysgol. Mae Prifysgol Caergrawnt hefyd yn dilyn y gyfundrefn hon, a cheir perthynas glòs (er cystadleuol) rhwng y ddwy brifysgol.
Mae Prifysgol Rhydychen yn un o sefydliadau academaidd elit y Deyrnas Unedig, ac yn ddiweddar (Ebrill 2005) ailgipiodd y lle cyntaf yn nhabl rhestru-prifysgolion papur newydd y Guardian.
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg y Brifysgol.
Colegau Prifysgol Rhydychen
|
||
---|---|---|
All Souls | Balliol | Brasenose | Y Brifysgol | Corpus Christi | Eglwys Crist | Exeter | Y Drindod | Y Frenhines | Green | Harris Manchester | Hertford | Yr Iesu | Kellogg | Keble | Linacre | Lincoln | Magdalen | Mansfield | Merton | Neuadd Lady Margaret | Y Coleg Newydd | Nuffield | Oriel | Penfro | Regent's Park | St Anne | St Antony | Santes Catrin | St Cross | St Hilda | St Hugh | Sant Ioan | St Pedr | Somerville | Templeton | Wadham | Wolfson | Worcester |
||
Neuaddau Prifysgol Rhydychen
|
||
Blackfriars | Greyfriars | Neuadd Campion | Neuadd St Edmwnd | Neuadd St Benet | Neuadd Wycliffe | Tŷ San Steffan |