Rheilffordd Nantlle
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Roedd Rheilffordd Nantlle yn reilffordd gul a adeiladwyd i gario llechi o nifer o'r chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle i'r porthladd yng Nghaernarfon.
Pasiwyd deddf yn y Senedd i awdurdodi adeiladu'r rheilffordd yn 1825, a Robert Stephenson, brawd George Stephenson, oedd yn gyfrifol am y gwaith. Agorodd yn 1828, gyda wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau. Er mai ar gyfer cario llechi y bwriadwyd y lein, bu hefyd ar brydiau yn cario teithwyr rhwng Penygroes a Chaernarfon.
Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd Sir Gaernarfon yn 1865 ac yn ddiweddarach Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNER). Ail adeiladwyd y trac rhwng Caernarfon a Phenygroes yn 1867 fel rheilffordd o'r lled safonol, i ganiatau rhedeg trenau i Afon Wen. Daeth y darn rhwng Talysarn a Phenygroes yn reilffordd o led safonol yn 1872. Roedd y rheilffordd oedd yn cysylltu Talysarn a'r chwareli yn parhau fel tramffordd, gyda cheffylau yn tynnu'r wageni hyd 1963.
[golygu] Llyfryddiaeth
- J.I.C.Boyd; Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire Volume 1 The West (The Oakwood Press)