Rhifau yn y Gymraeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ceir dau brif fath o eiriau am rifau naturiol yn y Gymraeg: rhifolion (un, dau, tri, ...) a threfnolion (cyntaf, ail, trydydd, ...). System ugeiniol yw'r system draddodiadol gan fwyaf, ond dyfeisiwyd system ddegol ar gyfer y rhifolion yn yr 19eg ganrif. Honir fod manteision sylweddol i'r system ddegol Gymraeg o ran dysgu rhifyddeg elfennol, o'i chymharu a'r system Saesneg a'r system draddodiadol.
[golygu] Rhifolion
Mae'r hen system a'r system ddegol yn cytuno hyd at 10. Dynoda (*) fod treiglad meddal yn dilyn, (**) treiglad llaes.
Ffurf gwrywaidd | Ffurf benywaidd | O flaen enw | |
1 | un | un* | |
2 | dau* | dwy* | |
3 | tri** | tair** | |
4 | pedwar | pedair | |
5 | pump | pump | pum |
6 | chwech | chwech | chwe** |
7 | saith | saith | |
8 | wyth | wyth | |
9 | naw | naw | |
[[10 (rhif)|10 | deg | deg |
[golygu] Rhifolion degol
Dyma'r rhifolion degol o 11 hyd at 20:
11 | un-deg-un | |
12 | un-deg-dau | |
13 | un-deg-tri | |
14 | un-deg-pedwar | |
15 | un-deg-pump | |
16 | un-deg-chwech | |
17 | un-deg-saith | |
18 | un-deg-wyth | |
19 | un-deg-naw | |
20 | dau ddeg |
Mae'r rhifolion yn parhau mewn dilyniant rhesymwgol, gyda'r degau fel a ganlyn
10 | deg | |
20 | dau ddeg | |
30 | tri deg | |
40 | pedwar deg | |
15 | pump deg | |
60 | chwech deg | |
70 | saith deg | |
80 | wyth deg | |
90 | naw deg | |
100 | cant |
Wedi'r cant, mae'r patrwm yn newid ychydig:
101 | cant ac un | |
102 | cant a dau | |
103 | cant a thri | |
... | ... | |
199 | cant a nawdeg naw | |
200 | dau gant | |
201 | dau gant ac un |
Dyma sylfaen y rhifau mwy:
1,000 | mil (benywaidd) |
1,000,000 | miliwn (benywaidd) |
1,000,000,000 | biliwn (gwrywaidd) |
Dyma enghraifft o sut i ddarllen rhifolion mawr:
2,002,593,786 | dau biliwn, dwy filiwn, pump cant a nawgeg tri mil, saith gant ac wythdeg chwech |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.