Rhys Gabe
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhys Thomas Gabe (1880 - 1967), chwaraewr Rygbi'r undeb Cymreig a enilodd 24 o gapiau i Cymru, yn bennaf fel canolwr.
Ganed Gabe yn Llangennech, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Lanelli yn ddwy ar bymtheg oed. Yn 1901 symudodd i Lundain i astudio yng Ngholeg Hyfforddi Borough Road ac ymunodd a chlwb rygbi Cymry Llundain, lle dechreuodd chwarae fel canolwr. Wedi gadael y coleg aeth yn athro mathemateg i Gaerdydd ac ymunodd a Chlwb Rygbi Caerdydd. Ffurfiai ef a'r canolwr arall Gwyn Nicholls gyfuniad nodedig iawn i'r clwb ac i Gymru. Bu'n gapten Caerdydd yn y tymor 1907-08 a sgoriodd 51 cais i'r clwb mewn 115 o gemau.
Enillodd Gabe ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1901 fel asgellwr chwith. Yr oedd ei 24 gêm dros Gymru yn cynnwys y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1905, ac yr oedd yn gapten Cymru yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn 1907. Bu ar daith i Awstralasia gyda'r Llewod Prydeinig yn 1904.
Ei gais rhyfeddaf mae'n debyg oedd un a sgoriodd yn erbyn Lloegr ym Mryste yn 1908. Chwaraewyd y gêm mewn niwl tew, a chafodd Gabe a Percy Bush hyd i'r bêl tu allan i linell 25 Lloegr heb i unrhyw un o chwaraewyr Lloegr sylweddoli hynny. Gafaelodd Gabe yn y bêl ac aeth i gyfeiriad y llinell tra rhedai Bush i'r cyfeiriad arall i ddrysu chwaraewyr Lloegr ymhellach. Ymhen tipyn cyrhaeddodd y dyfarnwr a'r chwaraewyr eraill at y llinell i ddarganfod Gabe yn eu haros gyda'r bêl.
Ymddeolodd Gabe o rygbi yn 1908, ond parhaodd i chwarae ambell gêm i Gaerdydd. Bu farw yng Nghaerdydd yn 1967.
[golygu] Cyfeiriadau
Gareth Hughes (1983) One hundred years of scarlet (Clwb Rygbi Llanelli) ISBN: 0-95091590-4