Richard Davies (Mynyddog)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).
Bardd o Gymro (1833 - 14 Gorffenaf, 1877, a aned yn Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn oedd Richard Davies (Mynyddog).
Ganwyd Mynyddog yn Y Fron, cartref ei rieni yn Llanbrynmair, yn 1833. Treuliodd ei ieuenctid yn amaethu ar y fferm teuluol ac yn bugeilio ar fryniau Llanbrynmair. Mae'r bywyd hwnnw yn yr awyr agored yng nghanol gogoniant natur a'r gymdeithas Gymraeg glos yr oedd yn ei chynnal ym mhentrefi bach cefn gwlad Maldwyn a Meirionnydd yn elfen ganolog yn ei waith.
Roedd Mynyddog yn fardd hynod boblogaidd yn ei ddydd ymhlith y werin bobl, fel ei gyfoeswr Ceiriog. Dechreuodd Mynyddog farddoni yn y dull eisteddfodol oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda'r bryddest a'r awdl gorlwythedig â delweddau aruchel, ond yn fuan yn ei yrfa trodd i gyfansoddi cerddi byrrach ar y mesurau rhyddion ac ar geinciau poblogaidd Seisnig. Roedd y cerddi hyn yn gerddi i'w datgan a'u canu, ac yn ymwneud a phethau roedd pawb yn eu deall, megis bywyd natur a chylch y tymhorau, caru, difyrrwch diniwed, hiraeth a throeon bywyd beunyddiol, weithiau'n drist, weithiau'n ddoniol.
Cafodd yrfa hir ar lwyfannau'r eisteddfodau, bach a mawr, yn cyflwyno, yn adrodd ac yn datgan ei gerddi. Teithiodd bob rhan o Gymru a bu ar daith i America hefyd, gan ymweld â Rhaeadr Niagara ac Efrog Newydd. Roedd yn gyfaill i'r baledwr Owain Meirion.
Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi yn ystod ei oes, yn 1866, 1870 a 1877. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith i'r cylchgronau llenyddol Cymraeg yn ogystal. Cofir amdano hefyd am iddo weithio gyda Joseph Parry ar yr opera Blodwen. Yr unig gerdd ganddo sy'n aros yn boblogaidd heddiw yw'r gerdd wladgarol ysgafn "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg".
Bu farw'r bardd ar 14 Gorffenaf, 1877, a chafodd ei gladdu yn ei hoff lecyn, sef Llanbrynmair.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Caneuon Mynyddog (Wrecsam, 1866)
- Yr Ail Gynnig (Wrecsam, 1870)
- Y Trydydd Cynnig (Wrecsam, 1877)
- Pedwerydd Llyfr Mynyddog (Wrecsam, 1882)
- O.M. Edwards (gol.), Gwaith Mynyddog (Llanuwchllyn, 1914)
- T.R. Roberts, Mynyddog Cofiant (1909)