Sigrid Undset
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Sigrid Undset (1882-1949) yn nofelydd yn yr iaith Norwyeg, a aned yn Kalundborg, Denmarc.
Archaeolegwr nodedig oedd ei thad ac mae'n debyg mai trwyddo fo y daeth i ymddiddori yn hanes Norwy yn yr Oesoedd Canol. O 1899 ymlaen gweithiodd mewn swyddfa yn Oslo ac mae'r problemau a wynebai merched ifanc cyfoes yn sail i'w nofelau cynnar, yn cynnwys Jenny (1912).
Mae ei champwaith, Kristin Lavransdatter (3 cyfrol, 1920-1922) yn nofel hanesyddol graffig a realistaidd am gariad a chrefydd yn Norwy'r 14eg ganrif. Fe'i dilynwyd gan Olav Audunssön (4 cyfrol, 1925-1927), Gymadenia (1929) a Den trofaste hustru ("Y cymar ffyddlon", 1936).
Troes i Gatholigaeth yn 1924, ac wedi hynny dyfnhaodd dyfnder ysbrydol ei gwaith. Dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth Nobel iddi yn 1928.