Sinai
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gorynys anial yn Yr Aifft sy'n gorwedd rhwng Camlas Suez yn y gorllewin ac Israel a Llain Gaza yn y dwyrain yw Sinai. Yn y gogledd mae'n wynebu'r Môr Canoldir tra yn y de mae ganddi arfordir hir ar y Môr Coch sy'n terfynu yn Gwlff Suez yn y gorllewin a Gwlff Aqaba yn y dwyrain.
Ac eithrio ambell werddon werdd mae'r tir yn garregog a diffrwyth gyda bryniau yn y de a gwastadeddau yn y gogledd. Mynydd Sinai (2285 metr, 7497 troedfedd) yw'r pwynt uchaf. Yn ôl Llyfr Exodus yn yr Hen Destament, ar y mynydd hwnnw y cafodd Moses dabledi'r Deg Deddf o law Iehofa. Saif mynachlog hynafol sy'n enwog am ei chasgliad o lawysgrifau ger gopa Mynydd Sinai. Yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig roedd Sinai'n rhan o dalaith Arabia Petraea â'i phrifddinas ym Mhetra (de-orllewin Gwlad Iorddonen heddiw).
Meddianwyd Sinai gan Israel yn 1956 ac eto yn Rhyfel Chwech Diwrnod 1967 a Rhyfel Yom Kippur 1973. Dan gytyndeb heddwch Yr Aifft ac Israel yn 1979 dychwelwyd rhan o Sinai i'r Aifft ac yn 1992 tynnodd Israel allan yn gyfangwbl. Ers hynny mae twristiaeth wedi tyfu'n gyflym ar arfordir Môr Coch Sinai ac yn denu miloedd o Ewropeaidd i dorheulo a darganfod y bywyd tanforol mewn trefi gwyliau fel Sharm el-Sheikh.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Categorïau tudalen: Egin | Sinai | Yr Aifft | Y Dwyrain Canol | Y Môr Coch | Anialwch