Thessaloníci
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr ail ddinas fwyaf yng Ngwlad Groeg, a phrif ddinas rhanbarth Macedonia yw Thessaloníci (Groeg: Θεσσαλονίκη; ceir hefyd y ffurf Salonika; Thessalonica y Testament Newydd). Mae'n brifddinas y nome llywodraeth leol o'r un enw. Mae'n sedd esgobaeth fetropolitaidd yn Eglwys Uniongred Roeg ac esgobaeth Gatholig.
Mae'r ddinas yn gorwedd ar Fae Salonica ar ffurf ammffitheatr ar lethrau Mynydd Khortiatis. Dioddefodd dân mawr dinistriol ar 5 Awst, 1917. Yn yr hen ddinas, ar lethrau isaf y mynydd, ceir nifer o henebion pwysig o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y ddinas sydd yn cael ei rhestri fel Safle Treftadaeth y Byd oherwydd hynny. Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.