Thomas Gwynn Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd oedd T. Gwynn Jones 10 Hydref 1871 - 7 Mawrth 1949.
Cafodd ei addysg yn Ninbych ac Abergele. Daeth yn is-olygydd Y Faner yn 1890. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i Thomas Gee. Aeth i weithio i'r Llyfrgell Genedlaethol ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Yn 1919 daeth yn Athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg.
Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur.
Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddiodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
[golygu] Llyfrau T. Gwynn Jones
- Astudiaethau (1936)
- (cyf.), Awen y Gwyddyl (1922)
- Bardism and Romance (1914)
- Beirniadaeth a Myfyrdod (1935)
- (cyf.), Blodau o Hen Ardd (1927)
- Brethyn Cartref (1913)
- Brithgofion (1944)
- Caniadau (1934)
- Cofiant Thomas Gee (1913)
- Cymeriadau (1933)
- Y Dwymyn (1944)
- Dyddgwaith (1937)
- Eglwys y Dyn Tlawd (1892)
- Emrys ap Iwan. Cofiant (1912)
- (cyf.), Faust gan Goethe (1922)
- Gwedi Brad a Gofid (1898)
- (gol.), Gwaith Tudur Aled (1926)
- Gwlad y Gân a cherddi eraill (1902)
- John Homer (1923)
- Lona (1923)
- Llenyddiaeth Y Cymry (1915)
- Rhieingerddi'r Gogynfeirdd (1915)
- (cyf.), Visions of the Sleeping Bard (1940)
- Welsh Folklore and Welsh Folk-custom (1930)
[golygu] Beirniadaeth ac Astudiaethau
- Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, "Cyfres y Meistri" (Caerdydd, 1982)
- David Jenkins, Cofiant Thomas Gwynn Jones (Dinbych, 1973)
- Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth T. Gwynn Jones (1972)
- D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
- "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor (Caerdydd, cyfrol XXVIII, Haf 1949)