Abergele
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Abergele Conwy |
|
Mae Abergele yn dref yng Nghonwy (yn yr hen Sir Ddinbych cyn hynny), ar yr A55 rhwng Bae Colwyn a'r Rhyl. Saif ar lannau Afon Gele. Mae'n dref farchnad a chanolfan siopa lleol. Mae gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Er yn dref gymharol fodern mae gan Abergele hanes digon hir. Tyfodd o gwmpas yr hen eglwys. Bu damwain difrifol ar y rheilffordd yn 1868 pan darwyd yr Irish Mail gan dri wagen petrol oedd wedi rhedeg yn rhydd i lawr y trac; collodd 33 o bobl eu bywydau (mae eu beddau i'w gweld yn yr eglwys).
[golygu] Yr eglwys
Codwyd Eglwys Fihangel Sant yn y 15fed ganrif ar safle eglwys hŷn; cafodd ei hadnewyddu yn 1879. Mae'r bedyddfaen yn dwyn y dyddiad 1663. Yn rhan o'r llawr ger yr allor, mae hen garreg â chroes arni sy'n dyddio o'r 13eg ganrif; credir ei bod yn garreg fedd abad.
[golygu] Enwogion
- Ganed Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) yn Abergele (24 Mawrth 1851). Enwir yr ysgol uwchradd leol er ei anrhydedd yn Ysgol Emrys ap Iwan.
[golygu] Atyniadau eraill
- Castell Gawr - Bryn coediog 1m i'r de, safle camp Rufeinig.
- Castell Gwrych - Castell Gothig o'r 19eg ganrif.
- Moelfre Isaf - bryn deniadol, 2m i'r de, gyda golygfeydd braf.
- Pensarn - Pentref glan môr a chanolfan twristiaeth, milltir i'r gogledd o'r dref.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Tudalen tref BBC (yn Saesneg)
- Freecycle Abergele Grwp Ailgylchu Freecycle Abergele (yn Saesneg)
- Camera traffig
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolwyddelan | Gyffin | Henryd | Llandudno | Llanfairfechan | Llangernyw | Llanrwst | Llansannan | Penmachno | Penmaenmawr | Pentrefoelas | Trefriw | Ysbyty Ifan |