Tryfan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tryfan Glyderau |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Tryfan o Lyn Ogwen |
Uchder | 915m |
Gwlad | Cymru |
Mynydd yn y Glyderau yn Eryri yw Tryfan, a chanddo uchder o 915m. Mae'n hynod greigiog ac mae ganddo siâp nodweddiadol iawn. Saif wrth ymyl ffordd yr A5 ger Llyn Ogwen, gyda'r Carneddau yr ochr arall i'r llyn.
Mae Tryfan yn un o'r mynyddoedd mwyaf poblogaidd o holl fynyddoedd Eryri, ac ar benwythnosau braf yn yr haf mae cannoedd yn ei ddringo. Dywedir mai Tryfan yw'r unig fynydd yn Eryri nad oes modd ei ddringo heb ddefnyddio dwylo yn ogystal a thraed.
Ar y copa mae dwy garreg fawr a fedyddiwyd yn "Adda ac Efa", ac mae'n gamp draddodiadol neidio o un i'r llall.
Meddylir yn aml mai 'tri' sydd yn elfen gyntaf yr enw Tryfan ac felly mai 'Tri phig' neu 'Tri phwynt' yw'r ystyr', ond mae Ifor Williams yn dangos mai 'try' yn yr ystyr gryfhaol (fel 'tryloyw' er enghraifft) sydd yma. Ystyr yr enw felly yw "mynydd sy'n codi'n uchel iawn, neu un sydd â blaen main iddo" (Enwau Lleoedd, tud. 15). Mae'n enw y ceir enghreifftiau eraill ohono yng Nghymru, e.e. Mynydd Tryfan a Rhostryfan yn Arfon a Mynydd Tryfan yn Sir Ddinbych. Ceir yr enw hefyd am y llysiau Dail y tryfan (Petasites yn Lladin).
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.