Yr Wyddfa
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr Wyddfa Yr Wyddfa |
|
---|---|
Llun | Yr Wyddfa a Llyn Llydaw |
Uchder | 1,085m/3,560 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mynydd mwyaf Cymru yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd) ac y mynydd uchaf ym Mhrydain i'r de o Ucheldir yr Alban. Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa ceir bwyty a siop sydd wrthi'n cael eu hadnewyddu - y slwm uchaf yng Nghymru yn ôl Carlo, ([1]). Y cyntaf i werthu bwyd i'r ymwelwyr ar y copa oedd Morris Williams yn 1838.
[golygu] Llwybrau i'r copa
Mae cryn amrywiaeth o lwybrau i ben yr Wyddfa. Dyma rai o'r prif lwybrau:
- O Pen-y-Pas mae tri dewis. Gellir dilyn Llwybr y Mwynwyr neu Lwybr Pen y Gwryd yn syth tua'r copa, neu gellir dringo'r Grib Goch gyntaf ac yna mynd ymlaen dros Garnedd Ugain i gopa'r Wyddfa. Y llwybr dros y Grib Goch yw'r anoddaf o'r llwybrau arferol i gopa'r Wyddfa, a rhaid cymeryd gofal mawr mewn tywydd drwg.
- O Lanberis, gellir dilyn llwybr sy'n rhedeg ochr yn ochr a thrac y trên bach y rhan fwyaf o'r ffordd. Dyma'r llwybr hiraf, ond gan nad yw mor serth a'r gweddill, mae'n un o'r llwybrau hawddaf. Gall fod yn beryglus pan fo rhew ac eira.
- Llwybr Llyn Cwellyn, yn cychwyn ger talcen yr hostel ieuengctid Snowdon Ranger ar lan Llyn Cwellyn.
- Llwybr Rhyd Ddu, o'r maes parcio gerllaw'r pentref.
- Llwybr Watkin, yn cychwyn ger Pont Bethania, gerllaw Beddgelert. Gan fod y man cychwyn yn is na man cychwyn y llwybrau eraill, mae mwy o ddringo i'w wneud, ac mae rhan olaf y llwybr ychydig yn anodd, ond mae'n un o'r llwybrau mwyaf diddorol.
- Mae Pedol yr Wyddfa, sy'n dechrau o Ben y Pas, yn cynnwys Y Grib Goch a'r Lliwedd yn ogysyal a'r Wyddfa ei hun.
[golygu] Cysylltiadau Allanol
- Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (c.1765) gan Richard Wilson (arlunydd)
- Webcams o'r tywydd ar yr Wyddfa
- Llwybrau i gopa'r Wyddfa: o wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |