Tylluan Frech
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tylluan Frech | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Strix aluco | Linnaeus, 1758 |
Mae'r Dylluan Frech yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o ddylluanod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a de Rwsia.
Tylluan ganolig o ran mainy yw'r Dylluan Frech, 37-43 cm o hyd a 81-96 cm wingspan. Mae'n byw ar lygod yn bennaf, ond gall ladd anifeiliaid o faint llygod mawr ar adegau. Nid yw'n aderyn mudol ac anaml y gwelir un yn ystod y dydd, gan nad yw'n dod allan i hela nes iddi dywyllu.
Ceir y Dylluan Frech mewn coedydd ac mae'n nythu mewn tyllau mewn coed. Pan mae'n nythu mae'n barod i ymosod ar bobl i amddiffyn y nyth, a gall dynnu gwaed. Dyma'r ddylluan sy'n gwneud y sŵn Tyhwit tyhŵ, ond mewn gwirionedd mae hwn yn gyfuniad o ddwy alwad, Tyhwit gan yr iâr a tyhŵ gan y ceiliog.