Y ffliw
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Afiechyd sydd yn debyg i annwyd ond yn llawer mwy trwm a pheryglus yw'r ffliw. Pan ledodd y ffliw trwy'r byd yn 1919, bu farw mwy o bobl nag a gollwyd yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18. Mor wael oedd y sefyllfa yng Nghaerdydd yn y flwyddyn honno nes bod prinder eirch a phrinder dynion iach i dorri beddau newydd.
Mae gwahanol fathau o ffliw i'w cael, a'r feirws sy'n ei achosi yn newid ei ffurf yn aml iawn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.