Yokohama
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas Yokohama(Siapaneg Yokohama-shi 横浜市) yw prifddinas talaith Kanagawa yn rhanbarth Kanto ar ynys Honshu yn Siapan. Dan system sydd unigryw i Siapan, mae Yokohama yn "ddinas ymgorfforedig" sy'n rhan o fetropolis Tokyo heddiw; felly ar yr un pryd â bod yn ddinas, mae Yokohama yn cael ei chyfrif fel maesdref fwyaf y byd, gyda phoblogaeth o 3.6 miliwn. Mae'n ganolfan fasnach bwysig yn Ardal Tokyo Fwyaf.
O ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen datblygodd yn gyflym i fod yn brif borthladd Siapan ar ddiwedd y cyfnod ynysig yn hanes Siapan a elwir cyfnod Edo. Erbyn heddiw Yokohama yw un o'r porthladdoedd pwysicaf yn Siapan, ynghyd â phortladdoedd Kobe, Osaka, Nagoya, Hakata, Tokyo ei hun a Chiba.
[golygu] Wardiau

Mae gan Yokohama 18 ward ddinesig (ku):
|
|
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.