Tokyo
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifddinas Japan a dinas fwyaf y wlad yw Tōkyō (東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Mae tua 12 miliwn o bobl yn byw yn Tokyo a miloedd o bobl yn dod i weithio neu astudio yn y ddinas bob dydd. Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd y wlad a mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.
Mae'r enw yn golygu prifddinas ddwyreiniol. Roedd prifddinasoedd eraill cyn Tokyo, er enghraifft Cioto a Nara yn y gorllewin.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gweinyddiaeth
Un o daleithiau Japan yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel, rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas yn Shinjuku.
Poblogaeth y ddinas gyfan yw 12,064,101 (2002 a'i faint yw 2186.9 km². Tokyo, Kanagawa, Saitama a Chiba sy'n ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, gyda 33,418,366 o bobl yn byw ynddi.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Tokyo ym 1457 ond yr enw gwreiddiol oedd Edo (江戸). Ym 1603 daeth yn brif ddinas yr Shogunat Tokugawa, ond roedd y Tenno yn dal i fod yn Kyoto, gwir prif ddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym 1868 a gorchymynnodd Meiji Tenno newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas iddi hi.
Ym 1923 roedd daeargryn mawr yn yr ardal a dinistrwyd llawer o adeiladau a bu thua 10,000 o bobl farw. Cafodd y dref ei hail-adeiladu ond fe'i dinistrwyd eto yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd. Ar ôl hynny daeth Japan dan reolaith America a roedd Tokyo yn bencadlys o dan General Douglas MacArthur.
Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym 1964 cafodd Olympic yr Haf ei cynnal yn y ddinas. Ers y 70au mae llawer o bobl wedi dod i fyw i Tokyo o'r cefn gwlad ac yn ystod bwrlwm economaidd yr 80au roedd hi'n dinas llawn bywyd a llawn o siopau, tafarndai, busnesau ac roedd pobl yn adeiladu tai ledled y dref. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y 90au, ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig i'ddwyrain Asia a'r byd.
Ar 20 Mawrth 1995 roedd ymosodiad terfysgol yn defnyddio nwy nerfau Sarin mewn trên tanddaearol gan Aum Shinrikyo. Cafodd 12 o bobl eu ladd a miloedd yw'n dioddef canlyniadau'r ymosodiad.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Tokyo yn cynnwys ardal ar Honshu, ynys fwyaf Japan a nifer o ynysoedd bychain (Ynysoedd Izu ac Ynysoedd Ogasawara) ym Mae Tokyo a'r Cefnfor Tawel, rhai ohonyn mor bell a 1,000km o'r tir mawr. Y taleithiau cyfagosaf yw Kanagawa, Yamanashi, Saitama a Chiba.
[golygu] Wardiau
Mae 23 wardiau arbennig yn Tokyo, pob un gyda'i maer a'i chyngor:
|
|
[golygu] Dinasoedd
Mae nifer o ddinasoedd (yn Japan, mae hynny fel arfer yn golygu trefi gyda mwy nag 50,000 o bobl yn bwy ynddynt) yn Tokyo, hefyd:
- Akiruno
- Akigawa (nawr Akiruno)
- Akishima
- Chofu
- Fuchu
- Fussa
- Hachioji
- Hamura
- Higashikurume
- Higashimurayama
- Higashiyamato
- Hino
- Hoya (nawr Nishi-tokyo)
- Inagi
- Kiyose
- Kodaira
- Koganei
- Kokubunji
- Komae
- Kunitachi
- Machida
- Mitaka
- Musashimurayama
- Musashino
- Nishi-tokyo
- Ome
- Tachikawa
- Tama
- Tanashi (nawr Nishi-tokyo)
[golygu] Ardaloedd, drefi a phentrefi
- Nishitama
- Hinohara
- Hinode
- Itsukaichi (heddiw, Akiruno)
- Mizuho
- Okutama
Trefi a phentrefi ar ynysoedd:
- Hachijo sub-prefecture
- Aogashima
- Hachijo
- Miyake sub-prefecture
- Mikurajima
- Miyake
- Ogasawara sub-prefecture
- Ogasawara
- Oshima sub-prefecture
- Kozushima
- Niijima
- Oshima
- Toshima
[golygu] Economeg
Canolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.
[golygu] Busnesau gyda phencadlys yn Tokyo
- All Nippon Airways
- Casio
- East Japan Railway Company
- Fujitsu
- Honda
- Japan Airlines
- JFE Group
- Keio Electric Railway
- Mitsubishi
- Mitsui
- Mitsukoshi
- Mizuho Financial Group
- Nomura Group
- NTT
- Odakyu
- Resona
- SEGA
- Sojitz
- Sony
- Sumitomo
- Tokio Marine and Fire Insurance
- Tokyu
- Toshiba
[golygu] Demograffeg
Yn ôl oed (2002):
- Pobl ieuanc (0-14): 1.43 miliwn (12%)
- Pobl weithio (15-64): 8.5 miliwn (71.4%)
- Hen pobl (65+): 1.98 miliwn (16.6%)
Pobl yn dod o wledydd tramor: 327,000 (2001)
Tyfiad net y boblogaeth: +68,000 (o 2000 hyd i 2001)
[golygu] Prifysgolion
Prifysgolion mwyaf enwog Tokyo yw:
- Prifysgol Gakushuin
- Prifysgol Hitotsubashi
- Prifysgol Hosei
- Prifysgol Keio (Keio Gijuku)
- Prifysgol Kokugakuin
- Prifysgol Meiji Gakuin
- Prifysgol Meiji
- Prifysgol Nihon
- Prifysgol Sophia
- Tokyo Institute of Technology
- Tokyo Metropolitan University
- Prifysgol Tokyo
- Prifysgol Waseda