Zaghouan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Y mae Zaghouan yn dref fechan yng ngogledd-ddwyrain Tunisia, tua 60km i'r de o'r brifddinas Tunis, ac yn ganolfan weinyddol gouvernorat Zaghouan. Mae ganddi boblogaeth o tua 10,000 (2001).
Mae Zaghouan yn gorwedd ar lethrau gwyrdd a choediog Jebel Zaghouan (1295m). Oddi yno clydid dŵr mewn pont dŵr (aqueduct) i hen ddinas Carthage, 70km i ffwrdd; gellir gweld rhannau ohoni o hyd tua 20km i'r de o Tunis. Defnyddir y ffynhonau a fwydai'r pont dŵr o hyd gan y trigolion lleol.
Yn nghanol y dref ceir y Temple des Eaux (Teml y Dyfroedd: gweler y llun) sy'n dyddio o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Ar gyrion y dref mae Zaouia Sidi Ali Azzouz. Codwyd y zaouia gan ffoaduriaid o Andalucia er anrhydedd Sidi Ali Azzouz, sant o Foroco a sefydlodd dref Zaghouan, yn ôl y traddodiad.