160 CC
Oddi ar Wicipedia
2il ganrif CC - Y ganrif 1af CC - Y ganrif 1af -
210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 160au CC 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC
[golygu] Digwyddiadau
- Brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, Demetrius I, yn ymgyrchu yn y dwyrain, ac yn gadael rhan orllewinol yr ymerodraeth yng ngofal ei gadfridog Bacchides.
- Yn dilyn cais am gymorth gan yr Archoffeiriad Alcimus, mae Bacchides yn arwain byddin i Judea ar ôl lladd nifer fawr o'r Assideaid yng Ngalilea. Mae'n gwarchae ar Jeriwsalem, ond mae Jiwdas Maccabeus a llawer o'i ddilynwyr yn llwyddo i ddianc o'r ddinas.
- Brwydr Elasa, ger Ramallah heddiw; mae Bacchides yn gorchfygu Jiwdas Maccabeus, a leddir yn y frwydr. Dilynir ef gan ei frawd, Jonathan.
- Demetrius I yn gorchfygu a lladd Timarchus, oedd wedi gwrthryfela yn ei erbyn, ac yn cael y cyfenw Soter ("Gwaredwr") gan y Babylonianid, am eu gwaredu o ormes Timarchus.
- Yn dilyn marwolaeth Timarchus, mae Mithradates I, brenin Parthia, yn meddiannu Media.
[golygu] Genedigaethau
[golygu] Marwolaethau
- Gaius Laelius, cadfridog Rhufeinig (tua'r dyddiad yma)
- Lucius Aemilius Paullus Macedonicus, cadfridog, gwleidydd a chonswl Rhufeinig Roman.
- Artaxias I, brenin Armenia
- Jiwdas Maccabeus, arweinydd y gwrthryfel Iddewig un Judea.
- Timarchus, llywodraethwr Media dan yr Ymerodraeth Seleucaidd, lladdwyd mewn brwydr wedi iddo wrthryfela yn erbyn Demetrius I Soter.