164 CC
Oddi ar Wicipedia
2il ganrif CC - Y ganrif 1af CC - Y ganrif 1af -
210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 160au CC 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC
[golygu] Digwyddiadau
- Ptolemy VI Philometor brenin yr Aifft yn cael ei yrru o Alexandria gan ei frawd Ptolemy VIII Euergetes, ac yn ffoi i Rufain.
- Yn dilyn marwolaeth Antiochus IV Epiphanes tra ar ymgyrch yn Tabae (Isfahan) heddiw), daw ei fab naw oed, Antiochus V Eupator, yn frenin yr Ymerodraeth Seleucaidd. Llywodraethir y deyrnas ar ei ran gan Lysias.
- Brwydr Beth Zur: yr Iddewon dan Jiwdas Maccabeus yn gorchfygu byddin yr Ymerodraeth Seleucaidd dan Lysias. Mae Jiwdas yn cipio Jeriwsalem ac yn adfer y deml. Mae'r ŵyl Iddewig Hanukkah yn coffáu hyn.
[golygu] Genedigaethau
- Cleopatra Thea Euergetis , brenhines yr Ymerodraeth Seleucaidd
[golygu] Marwolaethau
- Antiochus IV Epiphanes, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd (ganed tua 215 CC)