183 CC
Oddi ar Wicipedia
2il ganrif CC - Y ganrif 1af CC - Y ganrif 1af -
230 CC 220au CC 210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 160au CC 150au CC 140au CC 130au CC
[golygu] Digwyddiadau
- Y gwleidydd Rhufeinig Titus Quinctius Flamininus yn cael ei yrru at Prusias I, brenin Bithynia, i fynnu ei fod yn trosglwyddo Hannibal yn garcharor i Rufain. Mae Hannibal yn darganfod fod Prusias ar fin cytuno, ac yn cymeryd gwenwyn.
- Dinas Messene yn gwrthryfela yn erbyn Cynghrair Achaea. Pan mae'r cadfridog Achaeaidd Philopoemen yn ceisio delio â'r gwrthryfel, mae'n cael ei gymeryd yn garcharor. Rhoddir gewnwyn iddo er mwyn iddo ei ladd ei hun.
[golygu] Genedigaethau
- Publius Cornelius Scipio Nasica Serapio, Conswl Rhufeinig yn 138 CC ac un o'r prif weithredwyr yn llofruddiaeth ei gefnder Tiberius Gracchus.
[golygu] Marwolaethau
- Hannibal, cadfridog Carthaginaidd, ystyrir yn un o gadfridogion gorau yr oesoedd am ei fuddugoliaethau yn yr Eidal yn ystod y rhyfel yn erbyn Gweriniaeth Rhufain.
- Publius Cornelius Scipio Africanus Major, cadfridog Rhufeinig, enwog am orchfygu Hannibal ym Mrwydr Zama (202 CC).
- Philopoemen, cadfridog a gwleidydd Groegaidd.