.cym
Oddi ar Wicipedia
Ymgyrch a sefydlwyd ym mis Ionawr 2006 i ennill parth gwefannol i 'gymuned ieithyddol a diwylliannol y Gymraeg' yw .cym (hefyd dotcym).
Defnyddir y talfyriad CYM am y Gymraeg gan mai dyma yw cydnabyddiaeth swyddogol ISO 639-2 alpha-3 yr iaith.
Cred yr ymgyrchwyr y bydd ennill yr hawl i roi .cym ar ddiwedd cyfeiriad gwefan yn codi statws y Gymraeg ac yn arwain at ragor o ddefnydd o'r Gymraeg ac adnoddau Cymraeg ym maes technoleg gwybodaeth. Honnant y byddai .cym hefyd yn rhoi statws ac yn fynegiant gweledol i fodolaeth y Gymraeg a Chymreictod.
Ysbrydolwyd yr ymgyrch wedi llwyddiant ymgyrch puntCAT y Catalaniaid i ennill statws i'w cymuned ieithyddol a diwylliannol hwy (.cat).
[golygu] Dolen allannol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.