A. W. Wade-Evans
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd Cymreig ac offeiriad Anglicanaidd oedd Arthur Wade Wade-Evans (31 Awst 1875 - 4 Ionawr 1964).
Ganed Wade-Evans yn Abergwaun, Sir Benfro, yn fab i gapten llong. Graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen yn 1896 a chafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1898. Bu'n gurad yn Llundain, Caerdydd, English Bicknor a Welsh Bicknor cyn dod yn ficer France Lynch yn 1909. Yn ddiweddarach bu'n ficer Pottersbury gyda Furtho a Yardley Gobion ac yna Wrabness. Ymddeolodd yn 1957, a bu'n byw yn Frinton-on-sea, Essex, lle y bu farw.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes cynnar Cymru a Phrydain. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gred fod y farn gyffredinol ymysg haneswyr ar y pryd, fod trigolion Brythonaidd Lloegr wedi eu gyrru ar ffo i'r gorllewin gan y Sacsoniaid, yn anghywir ac yn seiliedig ar gamddehongliad o De Excidio Britanniae gan Gildas (?6ed ganrif). Yn ôl Wade-Evans, ysgrifenwyd y De Excidio - "y stori ddychmygol hon" sydd "wedi gwenwyno ffynhonnau hanes y Cymry am ganrifoedd"[1] - ar ddechrau'r 8fed ganrif, ond nid yw pawb yn derbyn ei ddamcaniaeth.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Coll Prydain, rhagymadrodd.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Nennius's "History of the Britons" (1938)
- Coll Prydain (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1950). Cyfieithiad o'r De Excidio Britanniae gyda rhagymadrodd a nodiadau.
- The emergence of England and Wales (1956, 1959)
- Welsh Christian origins (1934)
- Parochiale Wallicanum (1911)
- Vitae sanctorum Britanniae et genealogiae (1944).
- Welsh mediaeval law (1909)