Brythoniaid
Oddi ar Wicipedia
Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid - maen' nhw'n defnyddio'r gair "Celtiaid" am ei fod mor ffasiynol ar hyn o bryd.
Y Brythoniaid oedd y bobl oedd yn trigo Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o freninaethau annibynnol mawr a bach seiliedig ar batrymau llwythol.
Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 O.C. roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythr. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirwyiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin) a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig - yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.
Yn llenyddiaeth gynnar Cymru defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid) ochr yn ochr.
Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'i perthynas â'r Llydawyr yn Llydaw (Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw. Dyma lle'r aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr - a dyma lle ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
- Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
- John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
- Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)