A Coruña
Oddi ar Wicipedia
Un o ddinasoedd pwysicaf Cymuned Galisia yw A Coruña (Sbaeneg: La Coruña). Mae porthladd prysur yn y ddinas sy'n ganolbwynt i'r gwaith o ddosbarthu nwyddau amaethyddol yn yr ardal. Er mai yn ninas gyfagos Ferrol y mae llawer o'r diwydiannau trymion, mae purfa olew yno sy'n gyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae'r ddinas wedi bod yn bwysig i forwyr ers yr Oes Rufeinig; cyrhaeddon nhw yn yr ail ganrif CC gan fanteisio ar safle da y ddinas. Erbyn y flwyddyn 62 OC, roedd Iwl Cesar wedi mynd i ymweld â'r lle a sefydlodd fasnach gyda Ffrainc, Lloegr a Phortiwgal.