Ffrainc
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Liberté, Égalité, Fraternité (Ffrangeg: Rhyddid, Cydraddoldeb, Brawdoliaeth) |
|||||
Anthem: La Marseillaise | |||||
Prifddinas | Paris | ||||
Dinas fwyaf | Paris | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth unedol | ||||
Arlywydd Prif Weinidog |
Nicolas Sarkozy François Fillon |
||||
Sefydliad - Gwladwriaeth Ffrengig - Cyfansoddiad cyfoes |
843 (Cytundeb Verdun) 1958 (Pumed Weriniaeth) |
||||
Esgyniad i'r UE | 25 Mawrth 1957 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
547,030 km² (47ain) 0.25% |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Dwysedd |
61,044,684 (20fed) 112/km² (89ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $1.830 triliwn (7fed) $29,316 (20fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.938 (16eg) – uchel | ||||
Arian cyfred | Ewro (€) (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .fr | ||||
Côd ffôn | +33 |
Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Gweriniaeth Ffrainc neu Ffrainc (Ffrangeg: France, ynganiad IPA:fʁɑ̃s). Mae'n ffinio â Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.
Mae mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, ond mae nifer o ieithoedd eraill, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd o dan Ffrainc yn y de-orllewin, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer fawr o fewnfudwyr a'u teuluoedd yn siarad Arabeg hefyd.
[golygu] Hanes
[golygu] Daearyddiaeth
Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Béthune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn y Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc.
Mae gan Ffrainc amrywiaeth mawr o ran tirwedd, o'r gwastadeddau arfordirol yn y gogledd a'r gorllewin i fynyddoedd yr Alpau a'r Pyreneau yn y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Yn yr Alpau Ffrengig y mae Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop gydag uchder o 4810 m. Mae ardaloedd mynyddig eraill yn ogystal, gan gynnwys y Massif central, y Jura, y Vosges, y massif armoricain a'r Ardennes. Mae sawl afon nodedig yn llifo trwy'r wlad, gan gynnwys Afon Loire, Afon Rhône (sy'n tarddu yn y Swistir), Afon Garonne (sy'n tarddu yn Sbaen), Afon Seine, ac Afon Vilaine.
[golygu] Rhaniadau gweinyddol
Rhennir Gweriniaeth Ffrainc yn 26 régions. Mae 21 ohonynt yn ffurfio'r Ffrainc gyfandirol, felly wrth gyfri Corsica hefyd, mae yna 22 région yn Ffrainc fetropolitanaidd. Y régions tramor — Guadeloupe, Martinique, Réunion a Guyane Ffrengig — yw'r 4 arall.
Rhennir y régions ymhellach yn 100 département. Mae pob un o'r régions tramor hefyd yn département ynddi'i hun. Mae rhif gan bob département rhif a ddefnyddir ar gyfer codau post, cofrestru ceir ac yn y blaen. Rhennir pob un o'r départements metropolitanaidd yn sawl arrondissement, a rennir wedyn yn cantons llai. Rhennir y cantons yn communes - mae yna 36,682 commune, ac mae cyngor trefol etholedig gan bob un. Rhennir communes Paris, Lyon a Marseille yn arrondissements trefol yn ogystal.
Yn ogystal â'r uchod, mae sawl tiriogaeth dramor gan Weriniaeth Ffrainc.
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithuania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
Ymgeiswyr | Albania · Croatia · Georgia · Gweriniaeth Macedonia |
|
|
---|---|
Aelodau arhosol | Yr Almaen · Canada · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Ffrainc · Japan · Rwsia · Yr Unol Daleithiau |
Cynrychiolaethau ychwanegol | Yr Undeb Ewropeaidd |
|
||
---|---|---|
Aelodau arhosol | Y Deyrnas Unedig · Ffrainc · Rwsia · Tsieina · Yr Unol Daleithiau | |
Tymor yn terfynu 31 Rhagfyr 2007 | Gweriniaeth y Congo · Ghana · Periw · Qatar · Slofacia | |
Tymor yn terfynu 31 Rhagfyr 2008 | Gwlad Belg · De Affrica · Yr Eidal · Indonesia · Panamá |