Afon Boyne
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Boyne (Gwyddeleg: Abhainn na Bóinne) yn afon yn Leinster, Iwerddon. Ei hyd yw tua 112km (70 milltir). Mae'n tarddu yn Trinity Well, Newbury Hall, ger Carbury, Swydd Kildare, ac yn llifo i'r gogledd-ddwyrain trwy Swydd Meath i gyrraedd Môr Iwerddon ger Drogheda. Gellir dal eogiaid a brithyll yn yr afon, sy'n gorwedd yn Nyffryn Boyne.
Er nad yw'n afon hir, mae gan afon Boyne lle arbennig ym mytholeg, archaeoleg, a hanes Iwerddon. Mae'n llifo heibio i dref hynafol Trim a'i gastell, bryn Tara (hen brifddinas Uchel Frenhinoedd Iwerddon), Navan, bryn Slane, Brú na Bóinne (siambr gladdu Neolithig), Abaty Mellifont, a dinas ganoloesol Drogheda. Yn Nyffryn Boyne ceir henebion eraill hefyd, fel Loughcrew, Kells, a sawl croes Geltaidd. Ymladdwyd Brwydr y Boyne, un o'r brwydrau mwyaf tyngedfennol yn hanes Iwerddon, ar lannau'r Boyne ger Drogheda yn 1690.
Mae'r afon yn adnabyddus ers dyddiau Ptolemy, sy'n cyfeirio ati fel afon Bubinda. Cyfeiriodd Gerallt Gymro ati fel Boandus. Ym mytholeg Iwerddon dywedir fod yr afon yn cael ei chreu gan y dduwies Boann, a 'Boyne' yw'r Seisnigiad o'r enw Hen Wyddeleg hwnnw. Yma hefyd y cafodd Fionn mac Cumhaill yr eog hud Fiontán, "Eog Gwybodaeth".