Cookie Policy Terms and Conditions Afon Cynfal - Wicipedia

Afon Cynfal

Oddi ar Wicipedia

Afon fynyddig ym Meirionnydd, de Gwynedd, yw Afon Cynfal. Mae hi ymhlith yr harddaf yn Eryri ac yn dwyn cysylltiad â sawl traddodiad llên gwerin. Mae hi'n rhedeg o gyffiniau'r Migneint i ymuno ag Afon Dwyryd. Ei hyd yw tua wyth milltir.

[golygu] Cwrs yr afon

Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir corsiog uchel agored rhwng Ffestiniog ac Ysbyty Ifan. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o Lyn Conwy yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filtir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan bont bach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'r tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger Llyn y Dywarchen.

Fymryn is i lawr o'r bont mae'r afon yn rhedeg trwy geunant ddwfn lle ceir Rhaeadr-y-cwm; llecyn deniadol yw hyn a chyrchfa poblogaidd. Rhed yr afon yn ei blaen rhwng bryniau coediog i lawr i Bont Newydd lle mae priffordd yr A470 yn ei chroesi. Filltir i lawr o fan 'na mae Rhaeadr Cynfal. Yno y ceir Pwlpud Huw Llwyd a gysylltir â'r bardd-ddewin enwog hwnnw. Dywedir ei fod yn mynd yno liw nos i fyfyrio ac i gonsurio ysbrydion. Mae'r Pwlpud tafliad carreg o hen blasdy Cynfal-fawr lle ganwyd Huw Llwyd a'i berthynas Morgan Llwyd, y cyfrinydd a llenor adnabyddus. Rhed yr afon yn ei blaen i ddisgyn yn syrth trwy'r Gellidywyll goediog ac aberu yn Afon Dwyryd ger Pont Tal-y-bont, sy'n cludo'r A496 i Flaenau Ffestiniog.

[golygu] Llech Gronw

Llech Gronw ar lan Afon Cynfal
Llech Gronw ar lan Afon Cynfal

Llecyn arbennig ar lan Afon Cynfal yw Llech Gronw neu Llech Ronwy. Hen faen hir â thwll yn ei ganol ydy o, sy'n gorwedd ar ei wastad bellach ar lan yr afon ger Llety Nest yn ymyl y Bont Newydd. Yn ôl traddodiad dyma'r maen a roddodd Gronw Pebr (neu Gronwy Pefr), un o arwyr y Mabinogi, rhyngddo a gwaywffon Lleu Llaw Gyffes. Roedd yn gariad i Flodeuwedd a mynnodd Lleu Llaw Gyffes ddial arno am gysgu â'i arglwyddes a dwyn ei arglwyddiaeth oddi arno. Taflodd waywffon ato ac mi aeth drwy'r garreg a Gronw hefyd, gan ei adael yn gelain. Ceir yr hanes yn y Bedwaredd Gainc (Math fab Mathonwy). Ar ddiwedd yr adran honno o'r chwedl mae'n dweud:

Ac yna y llas (lladdwyd) Gronwy Bebyr, ac yno y mae y llech ar lan Auon Gynuael yn Ardudwy, a'r twll drwydi. Ac o achaws hynny ettwa y gelwir Llech Gronwy.

Hefyd yn yr ardal mae Bryn Cyfergyr (Bryn Cyfergyd heddiw), y cyfeirir ato yn y Bedwaredd Gainc.

[golygu] Darllen pellach

Cewch rhagor am Lech Gronwy a'r chwedl yn nodiadau golygiad Ifor Williams o'r Pedair Cainc (Caerdydd, 1930 ac argraffiadau diweddarach).

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu