Afon Lliw
Oddi ar Wicipedia
Afon ym Mhenllyn, de Gwynedd, yw Afon Lliw. Ei hyd yw tua saith milltir.
Mae'n tarddu rhwng llethrau gorllewinol Moel Llyfnant a Foel Boeth yng nghwm mynyddig anghysbell Blaen-Lliw, tua 450m i fyny. Yn is i lawr Blaen-Lliw mae Nant Ddu yn ymuno â hi o'r Siglen-las ar lethrau Moel y Feidiog. Ychydig cyn yr aber mae'r lôn fynydd o Drawsfynydd i Lanuwchllyn yn ei chroesi.
Am weddill ei chwrs rhed yr afon i lawr cwm Pennant-Lliw i gyfeiriad Llanuwchllyn yn y dwyrain. Agored a gwlyb ydyw'r tir yn y rhan uchaf o'r cwm, yn ardal Cors y Gwartheg Llwydion. Yma mae ffrwd fechan Afon Erwent yn ymuno. Yna mae'r afon yn cyflymu ac yn disgyn mewn cyfres o raeadrau bychain, trwy Goed Wenallt ac i lawr i bentref bach Ddol Hendre dan gefnen Carndochan a'i chastell canoloesol a godwyd gan Llywelyn Fawr. Yn ymyl hen gaer Rufeinig Caer Gai mae'n llifo dan bont Pen-y-bont sy'n dwyn yr A494 ac yn aberu yn Afon Dyfrdwy filltir a hanner cyn i'r afon honno lifo i Lyn Tegid.
Roedd yr hen ffordd Rufeinig o Gaer Gai i Domen y Mur yn dilyn glannau'r afon o Ben-y-bont i fyny'r cwm.