A494
Oddi ar Wicipedia
Mae'r A494 yn draffordd bwysig sy'n rhedeg ar draws Gogledd Cymru, rhwng cyffiniau Dolgellau yn ne Gwynedd, lle mae'n cwrdd â'r A487, a Queensferry yn Sir y Fflint.
Mae'n dilyn glannau Afon Wnion ac yna Afon Dyfrdwy yn y de-orllewin, yn mynd heibio i Lyn Tegid, yn croesi i Ddyffryn Clwyd ar ôl Corwen ac yno'n croesi Bryniau Clwyd i orffen ar Lannau Dyfrdwy.
[golygu] Lleoedd ar yr A494
Dyma restr o drefi a phentrefi sydd ar y lôn, wedi'u rhestru o'r de i'r gogledd.
- Bontnewydd
- Rhydymain
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Cefnddwysarn
- Y Sarnau
- Bethel
- Glan-yr-afon
- Four Crosses
- Y Ddwyryd
- Gwyddelwern
- Bryn Saith Marchog
- Pandy'r Capel
- Pwll-glas
- Rhuthun
- Llanbedr Dyffryn Clwyd
- Llanferres
- Tafarn-y-Gelyn
- Yr Wyddgrug
- Bwcle
- Ewloe
- Queensferry