Afon Missouri
Oddi ar Wicipedia

Afon sy'n llifo i mewn i Afon Mississippi yn yr Unol Daleithiau yw Afon Missouri. Mae'n tarddu lle mae'r afonydd Madison, Jefferson a Gallatin yn cyfarfod yn nhalaith Montana, ac yn cyrraedd y Mississippi i'r gogledd o St. Louis, Missouri. Mae ei hyd yn 2,341 milltir, ac mae ei dalgylch yn ffurfio chweched ran o holl gyfandir Gogledd America. Hi yw'r ail fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i'r Mississippi. Gelwir hi yn "Big Muddy" a "Dark River" oherwydd y mwd yn ei dyfroedd.
Yr Ewropeaid cyntaf i weld yr afon oedd y fforwyr Ffrengig Louis Jolliet a Jacques Marquette. Cyhoeddwyd y disgrifiadau cyntaf ohoni gan Étienne de Veniard, Sieur de Bourgmont yn 1713 a 1714. Yn 1795-1797 teithiodd James MacKay a'r Cymro John Evans i fyny'r afon i chwilio am ffordd trwodd i'r Pasiffig, dan nawdd llywodraeth Sbaen. Aeth John Evans ymlaen i dreulio gaeaf gyda llwyth y Mandan, i chwilio gwirionedd y stori eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion ymsefydlwyr Cymreig dan arweiniad Madog ab Owain Gwynedd. Casgliad Evans oedd nadd oedd arwydd o ddylanwad y Gymraeg ar eu hiaith.
Rhwng 1804 a 1806 teithiodd Meriwether Lewis a William Clark i fyny'r afon ar gais Thomas Jefferson, gan orffen y gwaith o ddarganfod cwrs yr afon.