Afon Tamar
Oddi ar Wicipedia
Afon yn ne-orllewin Lloegr yw Afon Tamar. Mae ei chwrs yn gorwedd yn rhannol yng Nghernyw ac yn rhannol yn Nyfnaint.
O'i tharddle rhwng Bude (Cernyw) a Clovelly (Dyfnaint) mae hi'n rhedeg ar gwrs deheuol bron ar draws penrhyn y de-orllewin gan groesi rhosdir Bodmin a llifo i Fôr Udd ger Plymouth mewn aber eang sy'n ffurfio un o angorfeydd gorau gwledydd Prydain.
Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex. Hyd heddiw mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint am y rhan fwyaf o'i chwrs.